Wynford Ellis Owen
Wynford Ellis Owen | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1948 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, llenor |
Plant | Bethan Ellis Owen |
Actor a chyfarwyddwr yw Wynford Ellis Owen (ganwyd 22 Ionawr 1948)[1] Mae'n enwog am greu ac actio'r cymeriad 'Syr Wynff ap Concord y Bos' a ymddangosodd yn y rhaglenni teledu plant Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Creodd y gyfres gomedi teledu Porc Peis Bach ac actiodd cymeriad y gweinidog Donald Parry yn y gyfres honno.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bu'n byw yn Llansannan, Sir Ddinbych cyn symyd i Lanllyfni, Sir Gaernarfon. Addysgwyd yn Nyffryn Nantlle, Coleg Addysg Cyncoed, Caerdydd a Choleg Cerdd a Drama Cymru. Aeth i weithio i'r BBC yn 1969.
Roedd ei dad, Robert Owen, yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanllyfni, ond a anwyd yn Nolwyddelan.
Ers yn blentyn roedd wedi arbrofi gyda chyffuriau gan ddwyn meddyginiaethau ei fam ac o aelodau eglwys ei dad. Fel oedolyn bu'n gaeth i alcohol a valium.[3] Cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.
Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011.[4]
Ymddeolodd o Stafell Fyw Caerdydd ar 31 Awst 2017 er ei fod am barhau i weithio rhan amser ar gynlluniau i agor canolfannau Stafell Fyw yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon. Mae hefyd yn gobeithio ail-afael ar ysgrifennu a dechrau creu dramâu a chyfresi teledu gyda’i ferch.[5]
Fe'i urddwyd gyda'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod a Meira a maent yn byw yng Nghreigiau ar gyrion Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Bethan, sy'n actores, a Rwth.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Actio
[golygu | golygu cod]- 1968
- Ty ar y Tywod gan Gwenlyn Parry, BBC Cymru. Rhan ‘y llanc’.
- 1972-79
- Creu ac actio rhan Syr Wynff ap Concord y Bos yn Teliffant, BBC Cymru - 20 rhaglen y flwyddyn.
- 1979
- Garej Syr Wynff, Crochendy Syr Wynff a Teliffant, ffilmiau byr Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
- Gwaed ar y Sêr gan Wil Sam, rhan Yr Inspector.
- 1980-81
- Dwy gyfres Siop Siafins gan Dyfed Thomas, BBC Cymru. Rhan Mr Prys.
- Cyfres ysgolion ‘Ffenestri, BBC Cymru.
- 1980-89
- Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, S4C, Cwmni Teledu Burum a Ffilmiau Llifon. Rhan Syr Wynff.
- 1981
- Rhaglen nodwedd am Universal Studios, S4C drwy Kine Merlin.
- 1985
- Byw’n Rhydd gan Emyr Humphreys, S4C drwy Ffilmiau Bryngwyn. Rhan Dr Jolly.
- 1985-91
- Sioe sebon Dinas, S4C drwy HTV. Rhan Robin Gregory.
- 1986
- Ffilm Nadolig Grym Ewyllys, S4C drwy Ffilmiau Llifon. Rhan Syr Wynff. (Wedi ei rhyddhau ar DVD.)
- Siarabang, S4C drwy Ffilmiau’r Nant.
- 1987
- Sôn am Siarabang, S4C drwy Ffilmiau’r Nant.
- Cyfle Byw, S4C drwy HTV.
- 1991
- Now you’re Talking, S4C drwy Cwmni Fflic.
- 1993
- Fallen Sons gan Ed Thomas, BBC Playhouse Wales. Rhan Uncle Frank.
- Pirates a Môr Ladron, S4C a Discovery drwy Psychology News. Rhannau Avery a Wragg.
- Glan Hafren, S4C drwy HTV. Rhan Simon Lyons.
- Môr a mynydd gan Angela Roberts, S4C drwy gwmni Llun y Felin. Rhan Peredyr Meredydd.
- 1994
- Heliwr a A Mind to Kill, S4C a Sky drwy Lluniau Lliw. Rhan Geoff Symonds.
- Halen yn y Gwaed, S4C drwy Gwmni Opus. Rhan Trystan.
- Arddangosfa AVE Realisation ar gyfer Celtica ym Machynlleth. Rhan Y Derwydd.
- 1994-95
- 3ydd cyfres Glan Hafren, S4C drwy HTV. Rhan Simon Lyons.
- 1995
- Rhyw Amser Cinio gan William R. Lewis a Gwenllian Carr, BBC Cymru. Rhan Frank.
- Streetlife gan Karl Frances, BBC2. Rhan y seiciatrydd.
- Guardian Angel gan Peter Lloyd. Cyfres yr Heliwr/A Mind to Kill, S4C/Sky gan Lluniau Lliw. Rhan Spencer Jones.
- Lleifior 2, Ffilmiau’r Tþ Gwyn. Rhan tad Llinos.
- 1996
- Dim Cliw, Cwmni Telesgop. Rhan Eli.
- 4edd cyfres Glan Hafren gan Delyth Jones. Rhan Simon Lyons.
- 1996/7
- Iechyd Da gan Lluniau Lliw, S4C. Rhan y prifathro, Glyn Jones.
- 1997
- Canllath o Gopa’r Mynydd, drama nodwedd ar Sir Charles Evans i Gwmni Cambrensis. Rhan Syr Huw Wheldon.
- Y Glas gan Siôn Eirian, S4C drwy Gwmni Boda. Rhan Lyndon Williams.
- Talk About, rhaglen i ddysgwyr, HTV. Rhan yr Inspector.
- Drama ddogfen The man who never was, S4C, Cwmni Cambrensis. Rhan yr holwr.
- Drama gyfres Departures, HTV. Rhan y capten.
- 1998
- Drama gyfres Cerddwn Ymlaen gan Mei Jones. Rhan Bryn Hill.
- Porc Pei, ffilm Nadolig S4C gan Wynford Ellis Owen. Cynhyrchiad Cwmni Cambrensis. Rhan Y Parch. Donald Parry.
- Enillodd y ffilm hon y brif wobr yng Ngðyl Ffilmiau Rhyngwladol Vürzburg, ac mae wedi ei rhyddhau ar DVD gan S4C.
- 1999
- Porc Peis Bach gan Wynford Ellis Owen, S4C, drwy Gwmni Cambrensis. Rhan Donald Parry yn y gyfres gyntaf.
- 2000
- Cyfres dysgwyr Let’s Talk Welsh. Rhan Dr. Dylan Griffiths.
- 2il gyfres o Porc Peis Bach. Rhan Donald Parry.
- 2001
- 3ydd cyfres Porc Peis Bach, Cwmni Cambrensis i S4C.
- Cyfres The Magistrate, BBC Wales. Rhan Bob.
- 2002
- 4edd gyfres PorcPeis Bach.
- Jacob’s Ladder, cyfres ddrama wedi’i seilio ar storïau o’r Hen Destament, HTV/Story Works Ltd.
- 2003-05
- 5ed a 6ed cyfres Porc Peis Bach.
- 2005
- Margaret Williams, S4C am fywyd yn saithdegau’r ganrif hon. Perfformio Monolog.
Cyflwyno
[golygu | golygu cod]- 1972-73
- Cwis Stesion Cantamil, HTV.
- 1976-77
- Cwis Olwynion, BBC Cymru.
- Darllediad allanol Eisteddfod yr Urdd y Barri, BBC Cymru.
- 1998
- Cwis Pendroffobia, S4C drwy HTV. Cyflwyno dwy gyfres
- 2000
- Dechrau Canu Dechrau Canmol. Cyflwyno ei hoff emynau.
- 2001
- Cestyll Cymru, Antenna Audio a Chwmni Cambrensis. Sylwebaeth.
Llais
[golygu | golygu cod]- 1975-76
- Cyfres bypedau plant Fyny Fana, HTV. Llais Taran.
- 1986
- Cartŵn Siôn Blewyn Coch gan Rosanne Reeves, S4C drwy Atsain/Siriol. Llais Eban.
- 1994
- Cyfres animeiddio Richard 3 gan William Shakespeare, BBC/S4C. Llais Hastings.
- 1996
- Animeiddiad Testament, S4C, Cartwn Cymru/Christmas Films. Llais Jona.
- 1999
- Cðr y Gwyrthiau, S4C, Cartwn Cymru/Christmas Films. Llais Y Diafol.
Arall
[golygu | golygu cod]- 1969-71
- Rheolwr llawr cynorthwyol, BBC Cymru. Adrannau newyddion a materion cyfoes, adloniant ysgafn a drama.
- 1979-84
- Un o gyfarwyddwyr cwmni goleuo diwydiant ffilm a theledu M.W.G. Lighting.
- Cadeirydd Cwmni Teledu Burum – cwmni teledu annibynnol.
- 1982-83
- Rhaglen sgwrs Ond o ddifri Madam Sera!, S4C drwy Gwmni Teledu Burum. Cynhyrchu a chyfarwyddo.
- 1982
- Cyfres ddrama ysgafn 8 bennod, Bysus Bach y Wlad, gan Hari Parry a Gareth Maelor, S4C drwy Gwmni Teledu Burum. Cyfarwyddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr 'Theatr y Byd'. Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Derbyn Geraint Jarman a George North i’r Orsedd , Golwg360, 4 Mai 2017. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
- ↑ Wynford Ellis Owen reveals his road to addiction (en) , WalesOnline, 10 Tachwedd 2008. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
- ↑ Stafell Fyw Caerdydd - Ein tîm. Stafell Fyw. Adalwyd ar 12 Medi 2017.
- ↑ Stafell Fyw Caerdydd – ehangu i’r gogledd a’r gorllewin , Golwg360, 31 Awst 2017. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Wynford Ellis Owen Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar wefan Gwasg Gomer Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback